SL(6)460 – Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”) yn dwyn i rym – ar 6 Ebrill 2024 – ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”) sy’n ymwneud â’r gyfundrefn reoleiddio ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu. At hynny, mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth drosiannol ac arbed.

Y weithdrefn

Dim gweithdrefn

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn cysylltiad â’r Rheoliadau.

1.     Mae rheoliad 2(d)(ix) yn dwyn i rym adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) o Ddeddf 2022. Ymddengys mai’r pŵer galluogi perthnasol yw adran 170(4)(b)(vii) o Ddeddf 2022, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddwyn i rym drwy reoliadau, adran 53 (ac eithrio is-adran (1) o’r adran honno) o Ddeddf 2022.

Gofynnir, felly, i Lywodraeth Cymru a ddylai adran 170(4)(b)(vii) fod wedi’i dyfynnu fel pŵer galluogi yn y rhagymadrodd i’r Rheoliadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Mawrth 2024